Rôn i’n un o blant bach pum deg naw “That’ll Be The Day” ‘n canu ar bob llaw Cyn marw ar rhyw noson stormus ddu Degawd newydd yn ein llaw Ar drothwy y chwedegau draw A geiriau Dylan yn sôn am fyd sy’n newid Yng nghefn y car a’r gwynt yn ein gwallt Yn chwerthin ar y byd wrth fomio lawr yr allt Ninnau’n teithio’n bell gan fynd i nunlle
Chwe deg wyth ddaeth fel ergyd drwyÂ’r tir AÂ’r wawr yn torri ar hunllef hir A rhai yn canfod llais; rhaid oedd newid y byd Ac un cam bach i ddyn, oedd fel llam mawr i ddynoloaeth O, am rannu gefr yr eiliad honno nawr; Ar gaeau Woodstock yn holl wres y nos NinnauÂ’n mesur bob awr trwy ganu RocÂ’nÂ’Rol Gwrthdaro cenedlaethau wrth law
Eiliadau fel hyn SyÂ’n aros yn fy meddwl i Er I ninnau ddweud ffarwel Eiliadau fel hyn Yn aros yn fy meddwl i
Cyn I’r saithdegau ddod i ben Yn Gracelands, tu ôl i’r llen Daeth diwedd trist i Frenin y cyfan Ac Elvis, Beatles a’r Rolling Stones Yn gadael y llwyfan mor wag ar eu hôl Ond yn loetran fel ysbrydion uwch fy mhen Yn siapio ein bywydau ac yn llenwi pob can Yn cynnal ein hysbryd hyd yr oriau mân Ond rhywsut aethom ni ar goll yn llwyr
Eiliadau fel hyn SyÂ’n aros yn fy meddwl i Er I ninnau ddweud ffarwel Eiliadau fel hyn Yn aros yn fy meddwl I
Trwy strydoedd Llundain mewn hen dacsi du A’r radio’n bloeddio i’th gofio di “Imagine”; dy freuddwyd drosodd Mi fûm i’n dawel iawn rhy hir Rô’n innau’n gweld yn iawn, roedd pob dim mor glir ‘Dwyt tithau ddim yn rhan o unrhyw gan Roedd tristwch mawr tu ôl i’r wên Soniaist ti rhywbeth am dyfu’n hen Ac o brofi’r ing a’r gorfoledd